CFfI Llanddeiniol YFC

 
• Newyddion y Clwb • Club News •
 

Adre

Digwyddiadur

Newyddion

Swyddogion

Galeri Lluniau

Cysylltu â Ni

Diweddarwyd
29/03/2010

 

 
 
  Trip y Clwb
Fore Sul 28ain o Fawrth (ar ol i bawb gofio troi eu clociau mlan!) aeth 15 ohonom ar dramp a'i throi hi am barc hamdden Oakwood. Roedd hi'n braf cael criw o aelodau at ei gilydd a chael treulio diwrnod yn chwerthin yng nghwmni'n gilydd. Roedd ambell un yn fwy dewr na'i gilydd ac wedi mentro ar bob reid (Ffion Moelifor!!) a rhai eraill ychydig yn fwy sidet. Roedd sawl trowsus gwlyb - gath Andrew real socad ar y rhaeadr ddwr a wedyn Rhodri a Gerwyn yn ymdebygu i dim boblseigh Jamaica ar y 'Snake River Falls'! Bu'r tywydd yn garedig a felly cafwyd diwrnod da yn llawn hwyl. Nol i'r Black yn Llanrhystud wedyn am bryd o fwyd i ddiweddu'r trip mewn steil!
Diwrnod Maes y Sir
I Dregaron awn am dro yn hapus ac yn llawen!! Wel, ie amser i gystadlu unwaith eto yn y Diwrnod Maes. Roedd hi'n ddiwrnod sych o leiaf. Bu Gethin, Trevor ac Anwen yn beirniadu stoc yn yr adran iau a Rhodri, Gerwyn, Caryl a Bleddyn wrthi yn yr adran hyn. Llongyfarchiadau i'r tim stoc hyn ar gyrraedd y 3ydd safle. Y merched fu'n brysur ymlaen llawr yn paratoi arddangosga yn cyfleu 'Fy Sir' - Ffiona yn gosod blodau; Gwenllian yn croesbwytho; Eleri yn tynnu lluniau; Betsan yn creu pwdin a Caryl yn addurno cacen. Wedi eu hymdrechion daeth yr arddangosfa i'r 3ydd safle. Dilwyn a Gethin fu'n cystadlu yn y diogelwch iau a Lowri a Betsan ar daith natur ar Gors Caron gan gyrraedd y 5ed safle. Yna tro'r tim ffensio oedd hi i chwysu am 2 awr. Llongyfarchiadau mawr i Emyr, Rhodri a Bleddyn ar ennill gyda 197 o farciau. Gwych iawn a cawn ni drip i'w cefnogi nhw nawr yn Niwrnod Maes Cymru ar y 10fed o Ebrill yn Llanymddyfri.
Roedd dau 3ydd ac un 1af yn ddigonol i fynd ar clwb i'r 3ydd safle ar ddiwedd y dydd. Llongyfarchiadau mawr i chi gyd.
Noson Ddramau
Cynhaliwyd noson o ddramau yng nghwmni CFfI Llangeitho yn Neuadd Llanon ar nos Iau 25ain Chwefror. Arweinydd y noson oedd Mr Dafydd Morris a'r llywyddion oedd Mr a Mrs Eirwyn Evans, Hafan. Cafwyd noson hwyliog a thipyn wedi troi mas i gefnogi.
Yn ogystal bu'r clwb ar dramp i Lanwenog i berfformio'r drama yn eu cwmni nhw ar nos Lun 1af o Fawrth.
Mae'n braf cael y cyfle i ail-berfformio'r ddrama - a mae tipyn llai o bwysau a hwyl ar y llwyfan pan nad yw'n gystadleuaeth!!

Aelodau'r Dyfodol
Llongyfarchiadau mawr i Gavin a Clare ar enedigaeth Llion Dafydd.
Cystadlu yng Nghymru
Wedi ei berfformiad yng nghystadleuaeth siarad cyhoeddus Cymraeg y sir, cafodd Rhodri Hughes y cyfle i fynd ymlaen i gynrychioli'r sir yn ffeinal CFfi Cymru. Enfys Hatcher, Llanwenog oedd yn cadeirio gyda Catrin Jones, Pontsian a Catrin Haf Jones Mydroilyn yn cadw cwmni iddo ar y panel. Profiad hollol newydd i Rhodri oedd bod yng nghanol panel o ferched (!) ac roedd rhaid iddo fod yn hollol barod i dorri ar draws gyda'i farn er mwyn cyfrannu at y drafodaeth! Ond llongyfarchiadau mawr iddo am gynorthwyo tim seiat holi dan 21ain CFfI Ceredigion i'r safle 1af.
Gwyl Ddrama CFfI Ceredigion
Mi fu criw bach o aelodau yn ymarfer gogyfer yr wyl ddrama a pherfformiad y clwb o'r ddrama 'Dechrau mae'r diwrnod'. CFfI Llanddeiniol oedd yn agor y gystadleuaeth ar nos Lun 15eg o Chwefror a braf oedd clywed ymateb y gynuilleidfa i'r perfformiad. Diolch i Andrewn (John), Ffion (Marged), Gethin (Arthur), Rhodri (Dewi), Gareth (Dave), Ffiona (Sian) a Bleddyn (Bob) am roi o'i gorau ar y noson. Roedd criw Llanddeiniol yn y gynuilleidfa yn browd iawn ohonoch chi.
Mi fyddwn yn perfformio'r ddrama eto yn Neuadd Llanon ar nos Iau 25ain o Chwefror. Dewch i'n gweld.
Siarad Cyhoeddus Cymraeg
Cynhaliwyd y gystadleuaeth wythnos yn hwyr oherwydd yr eira ond roedd hi'n werth aros i weld perfformiadau graenus gan bob un o aelodau CFfI Llanddeiniol. Glyn, Daniel ac Ioan oedd y tim darllen dan 14eg - yn cyflwyno detholiad o'r nofel Y Ffordd Beryglus gan T. Llew Jones. Lowri, Huw a Gwenno oedd tim A dan 16eg gyda Huw yn cyflwyno sgwrs ar ei daith anturus i Costa Rica. Betsan, Anwen a Dilwyn oedd tim B dan 16eg gyda Anwen yn cyflwyno sgwrs ar ei phenbeth. A'r tim dan 21ain oedd Ffiona yn cadeirio gyda Gethin, Ffion a Rhodri yn siarad. Dweud ei dweud fuodd y tri am 20 munud gyda Ffiona yn cadw trefn arni nhw. Llongyfarchiadau mawr i'r tim ar ddod yn 2il, i Ffiona am ddod yn gydradd 2il fel cadeirydd ac i Rhodri am ddod yn 3ydd fel siaradwr. Mi fydd Rhodri yn rhan o dim dan 21ain Ceredigion sy'n mynd ymlaen i gystadlu yn nghystadleuaeth CFfI Cymru ar benwythnos olaf mis Chwefror.
Canu Carolau
Mi fuodd tipyn o aelodau o amgylch yr ardal ar nos Lun 21 Rhagfyr yn canu'n swynol! Ie, unwaith eto roedd hi'n dymor canu carolau. Gobeithio bo pawb wedi mwynhau ein hymweliad a diolch i bawb am eu cyfraniadau hael. Yn wir, efallai mai talu ni i roi stop ar y canu odd pawb! Unwaith eto eleni fe fuodd y criw yn canu carol yn fyw ar Radio Cymru - felly dim dim ond trigolion Llanddeiniol a glywodd ni, ond trigolion Ceredigion, Cymru a'r Byd! Pleser mawr yw nodi fod y swm a gasglwyd yn £510 a throsglwyddir yr arian yma i Ward Gwenllian, Ysbyty Bronglias. Mi fydd yr arian yn cael ei roi tuag at y gost o brynu ventilator newydd i'r ward.
Y Ffair Aeaf
Cynhaliwyd seremoni wobrwyo cystadleuaeth Menter CFfI Cymru ar ddydd Llun y ffair. Llongyfarchiadau mawr i Emyr Harries ar ddod i'r 3ydd safle gyda'i fusnes saer coed. Mae'r sgiliau yma yn dipyn o help i'r clwb pan mae'n adeg cystadlu!
Gobeithio bydd yn gwario'r £300 yn o wobr ariannol yn ddoeth!! Braf gweld aelodau clwb Llanddeiniol yn mentro i fyd bunses.
Eisteddfod CFfI Cymru 2009 - 21 Tachwedd
Wedi iddo ennill yr Unawd Offerynnol yn Sir aeth Huw ymlaen i gynrychioli Ceredigion yn Eisteddfod CFfI Cymru. Cynhaliwyd yr Eisteddfod eleni yn Venue Cymru, Llandudno a mewn cystadleuaeth o safon uchel dyfarnwyd yr 2il wobr i Huw. Llongyfarchiadau mawr iddo ar y llwyddiant hyn.
Ar ddydd Llun 23 Tachwedd - mae llun trawiadol o Huw a'i offeryn ar dudalen flaen Golwg360.      Golwg360
Cyngerdd Codi Arian
Ar nos Wener 13 Tachwedd cynhaliwyd cyngerdd yn Neuadd Capel Bangor ar cyd rhwng 4 clwb yng ngogledd y sir. Roedd hi'n braf cael cydweithio ar brosiect er mwyn codi arian i apêl Sioe'r Cardis 2010. Ar y noson gwelwyd Meimio'r clwb a hefyd perfformiad gan enillydd yr unawd offerynnol sef Huw. Roedd diweddglo arbennig i'r gyngerdd wrth i'r 3 clwb fu'n cystadlu yng nghystadleuaeth y côr yn yr Eisteddfod uno i ganu Dyrchefir Fi dan arweiniad Gwyenth.
Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi gan olygu bo dros £500 wedi ei godi i'r apêl.
Eisteddfod y Sir 2009
Ar benwythnos diwethaf Hydref, cynhaliwyd Eisteddfod y Sir yn Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol Llanbed. Mi fu aelodau CFFI Llanddeiniol yn cymryd rhan mewn amryw o'r cystadlaethau a llongyfarchiadau mawr iddi nhw ar eu perfformiadau.
Nos Iau roedd hi'n gret clywed bo Huw Evans wedi ennill yr Unawd Offerynnol - dyna'r ail dro iddo lwyddo yn y gystadleuaeth yma. Hefyd ar y nos Iau bu criw'r meimio yn mynd i'r afael a defaid William Morgan a Betsan a Gethin yn diddanu'r gynuilleidfa gyda'u cyflwyniad hwy o'r stori a'r sain.
Ar y dydd Sadwrn, bu Ffion a Ffiona yn canu deuawd, gwelwyd Rhodri a Bleddyn di gwisgo lan fel dwy wenynen ar gyfer y ddeuawd doniol a hefyd ymddangosiad y côr ar y llwyfan. Braf iawn oedd bod nôl ar y llwyfan yng nghystadleuaeth y côr wedi sawl blwyddyn o seibiant. Mae ein diolch yn ddiffuant i Mr Geraint Thomas am roi o'i amser in hyfforddi a'n harwain. Diolch iddo am weithio gyda ni a thrio cael y gorau allan ohono ni!
Cafwyd ychydig o lwyddiant yn adran y gwaith cartref gyda Sara Tudor yn dod yn 2ydd yn y gystaleuaeth celf wedi iddi ddylunio a creu gemwaith. Yn ogystal a hyn daeth Rhaglen y Clwb i'r 3ydd safle a diolch i Eleri Marshalsay am ei gwaith yn trefnu'r rhaglen hwn.
Y Côr
Mae CFfI Llanddeiniol a CFfI Llangwyryfon wedi penderfynu dod at ei gilydd eleni i ffurfio côr ar gyfer Eisteddfod y sir. Mae'r ymarferion yn mynd ymlaen ar hyn o bryd a cynnydd yn digwydd yn araf bach. Edrychwn ymlaen i weld y côr yn canu 'Dyrchefir fi' ar lwyfan yr Eisteddfod ar y 31ain o Hydref. Pob lwc gyda'r ymarferion.
26 Medi: Gemau Dan Do
Bu criw o aelodau lawr yn Llanddewi yn cymryd rhan yn y gemau dan do blynyddol. Llongyfarchiadau i Sion a Martin ar gyrraedd ffeinal y darts dwbl a dod i'r 2il safle. Hefyd bu Gethin  yn chwarae dominos, Trefor H yn chwarae snwcer, Dilwyn yn chwarae Pwl, Caryl yn chwarae dartiau, Rhodri, Ffion a Lowri yn chwarae tip-it a Ffiona, Daniel, Gwenno a Betsan yn chwarae tennis bwrdd.
Digwyddiadau'r Haf
Unwaith eto eleni bu'r aelodau yn paratoi 'float' ar gyfer Carnifal Llanrhystud a'r thema eleni oedd 'Y Muppets' - ffordd dda o ailgylchu'r masgiau a greuwyd ar gyfer yr Eisteddfod! Y clwb oedd yn darparu'r bwyd yn Nhreialon Cwn Defaid y Sir a gynhaliwyd ar gaeau Morfa. Aed a'r garafan i Sioe Llanilar i godi ymwybyddiaeth am weithgareddau'r clwb. Ac yn binacl ar y digwyddiadau roedd yr It's a Knockout a gynhaliwyd ar y 12fed o Awst. Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd tuag at lwyddiant y noson. Bu pum tim yn cystadlu am deitl pencampwr It's a Knockout CFfI Llanddeiniol, CFfI Felinfach, Y mix - cymysgedd o glwb Pennant a Llangeitho, Y Dolffins - criw o PTA Ysgol Myfenydd, Morfa a CFfI Llangwyryfon. Llongyfarchiadau i CFfI Felinfach ar ennill yr ornest ac i CFfI Llangwyryfon am ddod yn 2il. Diolch hefyd i noddwyr y noson - Brodyr Evans, Cefnmabws; Islwyn Evans, Perris Garage; Y Llew Du, Llanrhystud a Maes Carafannau Pengarreg.
6 Gorffennaf 2009: Pwyllgor Blynyddol y Clwb
Ym mhwyllgor blynyddol y clwb etholwyd swyddogion newydd ar gyfer 2009/10. Ein llwyddion eleni fydd Dafydd a Lynda Morris, Glancarrog a'r is-lywyddion yw Huw ac Ann Tudor, Tynberllan. Rhodri Hughes yw'r cadeirydd ac yn cwblhau'r 'double act' etholwyd Bleddyn Henson yn is-gadeirydd. Ffiona Henson yw'r ysgrifennydd ac yn ein cynorthwyo gyda'r gwaith o drefnu rhaglen mae Eleri Marshalsay. Caryl Vaughan sydd yng ngofal y clwb 100 a Gwenno Tudor yw ysgrifennydd y cofnodion. Andrew a Ffion fydd yng ngofal y llyfr y llofion a Betsan Hughes fydd gohebydd y wasg.
15 Mehefin 2009: Chwaraeon y Sir
Aeth criw o aelodau i Lanbed ac i chwaraeon y sir. Roedd tim hoci dan 26ain a tim pel-droed dan 16eg yn cynrychioli'r clwb ar y noson a hefyd roedd ambell un o'r bechgyn hynaf yn rhan o dim cymysg yn y Pel-droed dan 26ain.
Roedd y gemau hoci yn gystadleuol ac er fod gol wedi ei sgorio gan dim Llanddeiniol, doedd dim posib ennill gem yn erbyn sawl tim cryf. Bu'r bois dan 16eg yn fwy llwyddiannus gan ddod yn 3ydd yn y gsytadleuaeth pel-droed dan do 5 bob ochr. Yn ogystal daeth y tim cymysg dan 26ain yn 3ydd hefyd. Gobeithio i pawb fwynhau'r noson o chwaraeon.
6 Mehefin 2009: Rali'r Sir
Llongyfarchiadau mawr i CFfI Llanddeiniol - enillwyr rali CFfI Ceredigion 2009.
Wel, dyna beth oedd diwrnod - glaw, glaw a mwy o law OND doedd dim byd am sbwylio'r parti i aelodau a ffrindiau'r clwb. Ennill y rali, 10 mlynedd union ers y diwrnod gwlyb hynny yn Llanwenog yn 1999.
Bu'r aelodau yn cystadlu'n ddiwyd trwy'r dydd a chware teg iddi nhw am eu hymdrechion - oherwydd cysondeb oedd gair pwysig y diwrnod. Chwech 3ydd, un 5ed ac un 6ed yn sichrau fod 147 o bwyntiau yn ennill y rali i clwb Llanddeiniol. Yr unig gwpan ddaeth adre i Landdeiniol oedd cwpan y rali - ond bois hwnna yw'r cwpan pwysica i gyd ac run ni yn parhau i ddathlu...
Bleddyn, Gethin a Sara fu'n beirniadu charolais ar y nos Fercher cyn y rali. 3ydd i Sara fel unigolyn dan 16eg a 3ydd i'r tim. Yr arddangosfa ffederasiwn gyda Laurel a Hardy yn dodd yn 3ydd diolch i Kirsty a'i mechanics, Rhodri a'i ddril a chymorth parod Gwenllian a Betsan. Nesaf cystadlaethau'r aelodau: Anwen a Gwenno yn coginio pryd o fwyd cyn mynd ar ymweliad a sioe lwyfan Joseph and his amazing technicolour dream coat - y bwyd yn plesio a nhw'n dod yn 3ydd. Ffiona yn gosod blodau i gyfleu'r sioe gerdd Billy Elliott gan ddod yn 5ed ac Anwen yn creu masg theatrig wedi ei selio ar y Lion King. Gwaith caled y bedair yma yn sicrhau'r 6ed safle yng nghystadlaethau'r aelodau. Rhodri, Caryl a Betsan oedd yn beirniadu'r defaid Lleyn, Caryl yn 3ydd fel unigolyn dan 21ain a'r tim yn 3ydd.
Gareth ac Emyr yn mynd ati i greu cwt ieir yn y gwaith coed ac yn cael ei dyfarnu'n 3ydd. Lowri a Lisa yn troi Eleri mewn i Sponge Bob Square Pants yn y gystadleuaeth gwisgo arweinydd gan ddod i'r 5ed safle. Gethin y Dame yn edrych yn fendigedig mewn pinc a Ffion y ci yn ei wasgod smart yn cydweithio'n arbennig i gyrraedd y 3ydd safle yn y 'Fonesig a'i Chi'.
Ac ar ddiwedd y dydd - Llanddeiniol yn mynd a phawb i Covent Garden Llundain ac i weld y perfformwyr ar y stryd yno yn y Tablo. Gwlyb iawn, iawn oedd pawb erbyn hyn!
Doedd neb yn meddwl dim am ennill rali - wel heblaw Elfyn oedd wedi bod wrthi'n neud y sums a'r workings out! Top 3 guranteed wedodd e!
Ond yng nghanol y glaw trodd llawer am adre ac wrth i'r prynhawn fynd yn hir a'r dorf lleihau doedd neb yn siwr pwy oedd wedi ennill Rali Mydroilyn 2009. Wedi hir ymaros dechreuodd y countdown o 10 i 1 a doedd dim son am CFfI Llanddeiniol, nes y funud olaf un. Daniel Downes, cadierydd y sir yn cyhoeddi taw CFfI Llanddeiniol oedd enillwyr y Rali - a do wir roedd tipyn o swn gan y 4 aelod, 6 arweinydd a llond llaw o gefnogwyr fu'n digon dewr i aros hyd y diwedd un!
Dyna ddiwrnod - diwrnod arall penigamp yn hanes CFfI Llanddeiniol. Bydd croeso mawr i bawb yn Rali Llanddeiniol 2010.

Enillwyr Rali 2009 - Aelodau a Ffrindiau CFfI Llanddeiniol yn dathlu!

Tablo CFfI Llanddeiniol - Covent Garden

Mwy o luniau i ddilyn yn y galeri wap!!

22 Ebrill 2009: Cwis Iau y Sir
Cyhoeddwyd yn Fforwm Ieuenctid y Sir mae tîm cwis iau Llanddeiniol oedd yn fuddugol gyda 77 o farciau. Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar ddechrau mis Ebrill, gyda chlybiau gogledd y Sir yn ymgynull yn Neuadd Llanilar ar gyfer 10 rownd o gwestiynau amrywiol.
Llongyfarchiadau mawr i Ffion, Ffiona, Gwenllian, Sara, Lowri, Gwenno, Anwen a Daniel. Da iawn chi bois.
 

4 Ebrill 2009: Diwrnod Maes y Sir

Diwrnod prysur i aelodau'r clwb a thipyn o lwyddiant. CFfI Llanddeiniol yn 3ydd yn Niwrnod Maes y Sir. Llongyfarchiadau i bob un o'r aelodau a fu'n cystadlu.

  • Tîm Ffensio (Emyr, Bleddyn a Rhodri): 2il

  • Tîm Barnu Stoc Iau (Gethin, Sara, Caryl a Betsan): 2il Llongyfarchiadau hefyd i Gethin ar ddod yn 5ed a Sara yn 7fed fel unigolion - tipyn o gamp allan o bron i hanner cant o aelodau!)

  • Diogelwch Iau (Gwenllian a Gwenno): 3ydd

  • Taith Natur (Arthur ac Anwen): 5ed

  • Hyrwyddo Clwb (Andrew, Sion, Lowri ac Anwen): 2il

  • Tîm Stoc Hyn (Bleddyn, Rhodri ac Anwen)

 

28 Mawrth 2009: Siarad Cyhoeddus CFfI Cymru

Anwen a Ffiona yn mynd ar dramp i Rhuthin i gystadlu yng nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg CFfI Cymru. Llongyfarchiarau i'r ddwy ohoni nhw ar eu perfformiadau. Anwen yn helpu tîm dan 14 Ceredigion i'r 3ydd safle a Ffiona yn rhan o'r tîm dan 16eg ddaeth yn gydradd 2il. Roedd Ffiona hefyd yn 2il fel cadeirydd.

Ffiona, Sara a Gwenan - Tim dan 16eg CFfI Ceredigion  

20 Chwefror 2009: 'Daladin a'r Tebot Piws'

Aelodau CFfI Llanddeiniol yn perfformio'r Panto yng nghystadleuaeth y Sir. Llongyfarchiadau i'r holl aelodau ar ei gwaith caled - dim safle gwych y tro hwn ond er hyn cafwyd digon o sbort yn yr ymarferion.

25 Ionawr 2009: Gymanfa'r Frenhines

Mae brenhines y Sir eleni yn aelod o Landdeiniol ac felly cynhaliwyd gymanfa brenhines Enfys yng Nghapel Elim, Llanddeiniol. Roedd merched y clwb yn canu cwpl o eitemau a'r bois yng ngofal y drws, y parcio a gwneud y te! Mae Enfys am ddiolch i'r aelodau a chyfeillion y clwb am eu cefnogaeth. Trosglwyddwyd elw o £350 i elusen Diabetes Cymru UK.

23 Ionawr 2009: Cinio Blynyddol

Daeth dros 70 o aelodau, ffrindiau a chyfeillion ynghyd ym Mhlas Antaron ar gyfer y cinio blynyddol. Y siaradwr gwadd oedd Mr Daniel Downes, Cadeirydd y Sir. Bu dawnsio tan yr oriau man!

14/15/16 Ionawr 2009: Siarad Cyhoeddus Cymraeg

Dechrau'r flwyddyn yn siarad a chael tipyn o lwyddiant.

  • Ffiona yn ennill y cadeirydd gorau dan 16eg am yr ail flwyddyn yn olynnol.

  • Anwen yn gydradd 2il fel darllennydd dan 14eg.

  • Ffion yn 3ydd fel cadeirydd o dan 21ain.

  • Tîm Seiat Holi dan 21ain sef Rhodri, Gethin, Owain a Ffion yn 3ydd.

  • Llongyfarchiadau hefyd i bob un aelod wnaeth tro ar y cystadlu - Glyn, Daniel, Imogen, Betsan a Gwenno dan 14eg a Gwenllian, Lowri, Sara, Sara ac Arthur dan 16eg.

Joio yn cinio clwb!
ARCHIF NEWYDDION

2008
2007
2006

2007
2006